Llun o farnwr o lawysgrif Peniarth 28 | |
Enghraifft o'r canlynol | codeiddio, system gyfreithiol |
---|---|
Math | cyfraith |
Daeth i ben | 1543 |
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 945 |
Rhagflaenwyd gan | Cyfraith Moelmud |
Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Yn ôl traddodiad, rhoddwyd trefn ar yr hen gyfreithiau Cymreig yn amser y brenin Dyfnwal Moelmud yn gyntaf yn y cyfnod rhwng 400 a 500, a chyfeirir at y rhain fel Cyfreithiau Moelmud. Dechreuwyd eu diweddarwyd yn 945 gan Hywel Dda a chyfeirir at y casgliad hwn fel Cyfraith Hywel neu Gyfraith Cymru.[1] Dyma un o'r pethau hynny sy'n uno'r bobl a siaradant iaith y cyfreithiau (Cymraeg) yn genedl ac felly mae'r dyddiad 954 yn garreg filltir allweddol (neu'n ben-blwydd pwysig) yng nghalendr cenedl y Cymru.
Cyfraith Hywel a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol, cyn i Gymru gael ei choncro'n gyfreithiol gan Brenin Edward o Loegr yn 1282/3. O ganlyniad i hyn, disodlwyd cyfraith droseddol Cymru gan Statud Rhuddlan yn 1284. Cafodd cyfraith sifil Cymru eu diddymu wedi i Harri VIII basio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a 1542/3.
Tua’r flwyddyn 945 galwodd Hywel ap Cadell (Hywel Dda) bobl o bob rhan o Gymru ynghyd i’r Tŷ Gwyn ar Daf yn Nyfed i gasglu, diwygio a threfnu cyfreithiau yng Nghymru. Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd ar drefn gyfreithiol ar gyfer Cymru a fyddai’n cael ei galw’n Gyfraith Hywel Dda.[2] Gan na ellir dyddio unrhyw lawysgrif o’r gyfraith i gyfnod Hywel Dda, ystyrir bod cysylltu ei enw á’r cyfreithiau yn rhoi awdurdod iddynt yn ystod yr Oesoedd Canol.
Roedd Cyfraith Cymru yn fath o gyfraith Geltaidd, gyda llawer o nodweddion tebyg rhyngddi hi a Chyfraith Brehon yr Iwerddon, ac roedd elfennau tebyg ag arferion a therminoleg y Brythoniaid oedd yn byw yn Ystrad Clud.[3] Cafodd Cyfraith Cymru ei throsglwyddo ar lafar ar draws y cenedlaethau gan y beirdd a phobl ddysgedig yn y gyfraith. Ni chafodd ei threfnu a’i strwythuro tan deyrnasiad Hywel Dda ganol y 10g.
Mae’r llawysgrifau cynharaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Ladin, yn dyddio o ddechrau'r 13g, ac yn dangos gwahaniaethau rhanbarthol.[4] Diweddarwyd ac adolygwyd y gyfraith gan rai rheolwyr, fel Bleddyn ap Cynfyn, a chan gyfreithwyr oedd yn ei haddasu yn ôl gofynion a sefyllfaoedd newydd. Felly mae’n anodd gwybod a yw’r llawysgrifau sydd wedi goroesi yn ddehongliad cywir o gyfreithiau cyntaf Hywel Dda.[5]
Roedd Cyfraith Hywel yn cynnwys gwybodaeth am nifer o bynciau amrywiol, o gyfraith hela i gyfraith menywod. Maent hefyd yn cynnwys cyfraith llys y brenin, oedd yn esbonio bod gan y brenin swyddogion oedd yn amrywio o’r bardd teulu i’r hebogydd, a bod gan bob un ei safle yn y llys.[2] Roedd y cyfreithiau yn rhoi pwyslais mawr ar statws cymdeithasol, gyda’r brenin ar y brig, a’r alltud a’r caeth ar y gwaelod. Roedd yn anodd dringo o fewn cymdeithas, ac roedd yn rhaid gofyn caniatâd yr arglwydd cyn cael hawl i wneud hynny.[2]
Elfen bwysig yng Nghyfraith Hywel Dda oedd sut oedd etifeddiaeth yn cael ei phenderfynu a’i dosbarthu. Roedd gan bob mab cydnabyddedig hawl i gyfran o eiddo’r tad. Bu hyn yn arwyddocaol ar gyfer tywysogion y Cymry, gan ei fod yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu'n gyson, heb obaith am undod parhaol. Roedd hyn yn wahanol i deyrnas brenin Lloegr, lle etifeddai’r mab hynaf y deyrnas gyfan.
Rhoddai Cyfraith Hywel bwyslais hefyd ar gyfrifoldeb torfol y gymuned, neu’r genedl, am ei haelodau. Cyfeiria hefyd at agweddau at ysgariad a sut byddai ysgariad yn cael ei drin dan Gyfraith Hywel.
Cyflwynwyd nifer o dermau cyfreithiol newydd gan Gyfreithiau Hywel Dda - er enghraifft, ‘sarhad’ a ‘galanas’. Roedd galanas yn system ‘arian gwaed’ a seiliwyd ar statws. Roedd ‘sarhad’ yn golygu bod tâl yn ddyledus pan oedd unigolyn yn cael ei amharchu ar lafar neu mewn gweithred tra bod ‘galanas’ yn iawndal a dalwyd gan deulu’r troseddwr i deulu’r ymadawedig mewn achosion o lofruddiaeth, ac yn seiliedig ar werth bywyd unigolyn.[6]
Roedd y cyfreithiau yn rhoi pwyslais mawr ar statws cymdeithasol. Roedd y breintiau, y cosbau a'r dyletswyddau a ddisgwylid gan y gyfraith yn dibynnu ar statws cymdeithasol yr unigolyn. Rhoddai’r cyfreithiau hawliau i ferched mewn priodas - er enghraifft, os oedd y berthynas yn chwalu ar ddiwedd saith mlynedd medrai’r wraig hawlio hanner yr eiddo oedd yn gyffredin rhyngddi hi a’i gŵr.[7][8]
Mae Cyfraith Hywel yn ddogfen bwysig sy'n dangos bwriad Hywel Dda i lunio fframwaith cyfreithiol roedd y Cymry yn medru ei berchnogi fel cenedl. Yn hynny o beth, roedd yn cynrychioli ymwybyddiaeth o genedl ac yn elfen bwysig o ran creu ymwybyddiaeth o hunaniaeth Cymru fel gwlad yn yr Oesoedd Canol. Cynhwysai llawer o nodweddion oedd yn dangos synnwyr cyffredin, tegwch a pharch.[9][10]
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |